Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 3 Chwefror 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
Times Not Specified |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r
cyfarfod ar Senedd TV
yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Catriona Williams, Plant yng Nghymru Lynne Hill, Plant yng Nghymru Ed Janes, Plant yng Nghymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2 Sesiwn Dystiolaeth - P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Atebodd y tystion a ganlyn gwestiynau gan y Pwyllgor:
· Catriona Williams OBE – Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru
· Lynne Hill – Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru
· Ed Janes – Swyddog Datblygu (Cyfranogiad), Plant yng Nghymru
3 Deisebau newydd
3.1 P-04-612 Dŵr Potel Gwladol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil ymateb y Gweinidog.
3.2 P-04-614 Cefnogi Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf Arriva Trains Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:
3.3 P-04-615 Taliad Benthyciad Teg i Fyfyrwyr yn y Flwyddyn Olaf o Hyfforddiant
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog ymateb i'r materion manwl a godwyd gan y deisebydd, ac yn enwedig a yw'n barod i ymestyn diffiniad y tymor i gynnwys gwyliau'r haf os bydd myfyrwyr yn dal i astudio.
3.4 P-04-616 Rhaid Atal Gwerthu Tân Gwyllt i’r Cyhoedd
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog, yn cynnwys y cyngor cyfreithiol yr oedd y Pwyllgor wedi ei dderbyn, a gofyn am ei farn.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-04-448 Gwella gwasanaethau iechyd rhywiol yng ngorllewin y Fro
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu unwaith eto at y deisebydd yn gofyn am ei barn am y llythyr gan y Bwrdd Iechyd.
Ar bwynt ehangach cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at:
4.2 P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru.
Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 4.4.
4.3 P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-x ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn
Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 4.4.
4.4 P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-x i Ysbyty Coffa Ffestiniog
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog hysbysu'r Pwyllgor o ddatblygiadau ar y cyfleusterau iechyd newydd ar gyfer Blaenau Ffestiniog a'r cynnydd gan y byrddau iechyd wrth ymateb i'r adroddiad ar yr astudiaeth o ofal iechyd yng nghanolbarth Cymru.
4.5 P-04-570 Argaeledd Anghyfartal o Ran Triniaethau Nad Ydynt Wedi’u Harfarnu’n Genedlaethol Gan GIG Cymru
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog amlinellu'r amserlenni ar gyfer datblygu polisïau comisiynu dros dro, i alluogi mynediad i feddyginiaethau arbenigol ac uwch-arbenigol tra bod prosesau newydd yn cael eu datblygu.
4.6 P-04-604 Diddymu Grwpiau Cyfeirio Cleifion â Diabetes a chanslo cyfarfodydd y Grŵp Cynllunio a Chyflawni Gwasanaethau Diabetig ym Mhowys.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i gau'r ddeiseb wedi i'r Gweinidog gadarnhau bod y Grŵp Cynllunio a Chyflawni ar gyfer Diabetes bellach wedi ei ailsefydlu.
4.7 P-04-602 Personoleiddio Beddau
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
4.8 P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn i'r Gweinidog ymateb i sylwadau pellach y deisebydd, yn enwedig y tri chais ar dudalen olaf ei ymateb; ac
· ystyried yng ngoleuni'r ymateb hwnnw i gymryd tystiolaeth lafar gan y Deisebydd a'r Gweinidog.
4.9 P-04-581 Gwrthwynebu’r Toriadau yn y Ddarpariaeth ar gyfer Dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog am ei sylwadau ar ymateb y deisebwyr, yn enwedig a ddylai blaenoriaeth ddigonol gael ei roi i ddysgwyr Saesneg fel iaith ychwanegol yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe.
4.10 P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau’r deisebydd.
4.11 P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
4.12 P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb defnyddiol, a gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau; ac
· Ailgysylltu gyda'r deisebydd neu barti arall fyddai â diddordeb i weithredu ar eu rhan, o gofyn eu barn ar yr ohebiaeth ddiweddar.
4.13 P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd
Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 4.15.
4.14 P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo
Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 4.15.
4.15 P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
4.16 P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd i nodi'r sefyllfa ac aros am ganlyniadau'r adolygiad cyfyngiadau cyflymder.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Blaenraglen waith
Trafododd yr Aelodau flaenraglen waith y Pwyllgor.